フォローお願い
iBookstore
Android app on Google Play
好きです!
A programme by
Casgliad Gemau Cosmig Charles Messier
2014年12月17日

Casgliad Gemau Cosmig Charles Messier

Y Bydysawd ydy popeth y gallwn ei gyffwrdd, teimlo, synhwyro, mesur neu ganfod.  Mae'n cynnwys biliynau o wrthrychau anhygoel - y planedau, cymylau llwch, galaethau a chlystyrau sêr, fel yr un yn y llun.

Yn ffodus i ni, mae’r trysor cosmig hon, ynghyd â llawer o rai eraill, i'w weld yn awyr y nos gyda dim ond telesgop bach.  Mae'n anodd credu, yn ôl yn y 1700au, fod un seryddwr yn meddwl eu bod nhw’n rhywbeth i'w osgoi!

Freuddwyd bywyd Charles Messier oedd dod yn enwog.  I wneud hyn, roedd angen iddo ddarganfod comed.  (Bryd hynny, dod o hyd i gomed oedd y ffordd hawsaf i wneud argraff ar seryddwyr eraill).

Yn anffodus, pan edrychodd Charles drwy ei delesgop, yn aml ddaeth o hyd i wrthrychau aneglur yn awyr y nos a oedd eisoes wedi eu disgrifio (ac nid oeddent yn gomedau).  Felly, penderfynodd achub ei hun peth amser, a phob tro daeth o hyd i wrthrych nad oedd yn symud ar draws yr awyr (fel byddai comedau yn ei wneud), gwnaeth nodyn ohonynt

Erbyn iddo orffen, yn ddamweiniol  roedd Charles wedi creu catalog o 110 o brydferthai seryddol; gan gynnwys nifylau nwyol, clystyrau o sêr, a galaethau enfawr.  Y peth rhyfedd yw, er iddo ddarganfod 13 o gomedau yn ystod ei fywyd, mae Charles Messier yn enwocaf i ni am y catalog hwn!

Mae'r ddelwedd ysblennydd yn dangos y clwstwr a enwir Messier 47. Mae'r clwstwr yn cael ei ddominyddu gan sêr ifanc glas llachar, gydag ychydig o gewri coch trawiadol.

 

 

 

Ffaith Cŵl

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am y gwrthrychau trawiadol yng nghatalog Messier, gallwch chwarae’r gêm ‘Messier Bingo’ ar y wefan lcogt.net/messierbingo/.

Share:

Printer-friendly

PDF File
1.1 MB